Fy Nuw 'rwy'n llefain tithau heb

1,2,3,4,5 - 6,7,8,9,10;  1,8,9.
SALM XXII. Rhan I - Adnodau 2,3,4,5,10.
(1)
[2] Fy Nuw, 'rwy'n llefain - tithau heb
  Roi im' mo'r atteb etto;
Bob dydd a nos mae 'nghri'n ddi-ffael,
  A heb gael mo'm dyhuddo.

(2)
[3] A thi wyt Sanct, Sanct i barhau,
  Lle daw gweddïau'n wastad;
A holl dŷ Isräel a'u clod,
  A'u pwys a'u hystod attad.

(3)
[4] Ynot gobeithiai'n tadau ni,
  A thydi oedd eu bwcled:
Ymddiried ynot, Arglwydd hael,
  Ac felly cael ymwared.

(4)
[5] Llefasant drwy ymddiried gynt,
  Da fuost iddynt, Arglwydd:
Eu hachub hwynt a wnaethost ti,
  Rhag cyni, a rhag gw'radwydd.

(5)
[10] Arnat ti bwriwyd fi o'r bru,
  Arnat ti bu f'ymddiried;
Fy Nuw wyt ti o groth fy mam,
  Ffyddiais it am fy ngwared.
Rhan II - Adnodau 11,19,22,27,30.
(6)
[11] Oddi wrthyf fi yn bell na ddos,
  Tra fo yn agos flinder,
I'm cymhorth i, gan nad oes neb
  A drotho ei wyneb tyner.

(7)
[19] Tithau fy nerth, a'm Harglwydd da,
  Nac ymbellhâ oddi wrthyf;
O! brysia, tydi yw fy mhorth,
  A thyr'd â chymmhorth heinyf.

(8)
[22] Mynegaf finnau d'enw'n bur
  I'm brodyr yn yr orsedd,
Lle mwya'r gynnulleidfa lân,
  Dy glod a wna'n gyfannedd.

(9)
[27] Trigolion byd a dro'nt yn rhwydd
  At yr Arglwydd, pan gofiant:
A holl dylwythau'r ddaear hon
  Ddont ger ei fron - ymgrymant.

(10)
[30] Y rhai'n a'u hâd oll yn un fryd,
  Gwnant iddo gyd wasanaeth;
A'r rhai'n i'r Arglwydd drwy'r holl dir
  A rifir yn genhedlaeth.
EP Edmwnd Prys 1544-1623

Tonau [MS 8787]:
Dyfrdwy (John Jeffreys 1718-98)
Persia (<1829)

gwelir:
  Oddi wrthyf fi yn bell na ddos
  Trigolion byd a drônt yn rhwydd
  Ynot gobeithiai'n tadau ni

PSALM 22. Part 1 - Verses 2,3,4,5,10.
(1)
[2] My God, I am crying out - without thee
  Giving me any answer yet;
Every day and night my cry is unfailing,
  And without getting any consolation.

(2)
[3] Yet thou art Holy, Holy to endure,
  Where prayers come constantly;
And all the house of Israel and their praise,
  And their leaning and their lifetime to thee.

(3)
[4] In thee our fathers used to hope,
  And thou wast their buckler:
They trusted in thee, generous Lord,
  And thus got deliverance.

(4)
[5] They cried out through trust formerly,
  Good thou wast to them, Lord:
Save them thou didst,
  From distress, and from reproach.

(5)
[10] Upon thee I was cast from the uterus,
  On thee was my trust;
My God art thou from my mother's womb,
  I have trusted in thee to deliver me.
Part II - Verses 11,19,22,27,30.
(6)
[11] From me do not go far,
  While ever affliction be near,
To help me, since there is no-one
  Who will turn his tender face.

(7)
[19] Thou my strength, and my good Lord,
  Do not distance thyself from me;
Oh hurry, it is thou who art my help,
  And bring help briskly.

(8)
[22] I will express thy pure name
  To my brothers in the assembly,
Where the greatest of the holy congregation,
  Thy praise make inhabitable.

(9)
[27] Residents of the world will turn freely
  To the Lord, when they remember:
And all the tribes of this earth
  Will come before thee - they will bow down.

(10)
[30] Some with their seed all in one mind,
  They will perform such service to him;
And some to the Lord through the whole land
  Are to be counted as a generation.
tr. 2011 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~